Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg | Inquiry into Welsh in Education Strategic Plans

 

WESP 04

Ymateb gan : All Ceredigion: Athrawes Ymgynghorol Llythrennedd

Response from : Ceredigion Local Authority: Consultant Teacher - Literacy

 

Cwestiwn 1 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?

Yn fy marn i, mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn deillio o Gynllun Llywodraeth Cymru, ac yn cyfrannu i raddau (ond nid yn ddigonol ar hyn o bryd) tuag at gwrdd â’r targedau.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir datrys hyn?

Mae angen diogelu cyllid penodol, ac felly warchod rhag toriadau er mwyn sicrhau digon o adnoddau dynol i weithredu’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn iawn.

Cwestiwn 2 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?

Yn fy marn i, mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol yn Awdurdod Lleol Ceredigion, trwy ailstrwythuro Addysg gynradd yng nghylch Aberystwyth (prosesau wedi cychwyn), trwy agor ysgol ddwyieithog Bro Teifi 3-19 ym Medi 2016, a thrwy gynllunio ar gyfer agor ysgol fro Drefach yn Ionawr 2017.  Hefyd, aethpwyd i’r afael â darparu ar gyfer hwyrddyfodiaid yn ne’r sir trwy agor Canolfan y Castell – Canolfan Iaith newydd ym Medi 2014.

 

Mae cynlluniau ar y gweill (Haf/Medi 2015) i gynnal holiadur i rieni plant cyn-ysgol, i ddiweddaru’r sefyllfa parthed gofynion rhieni am addysg gyfrwng Gymraeg (gan gymharu â chanfyddiadau’r holiadur diwethaf).

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?

n/a

Cwestiwn 3 - Beth yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?

Da o beth fyddai derbyn canllaw ac amserlen glir gyda’r Llywodraeth yn flynyddol yn cael ei gefnogi gydag ymweliad swyddog i egluro a chyfleu disgwyliadau ac amserlen weithredu’r flwyddyn.  Mae angen eglurder yn benodol ar rai materion data, e.e. data ail iaith, data nifer o gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn cyd-ddiffinio disgwyliadau cyson ar draws Cymru o’r cychwyn.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Gweler uchod.

Cwestiwn 4 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?

Yn fy marn i – ydyn, mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn gynhwysol iawn – mae asiantaethau gwahanol o fewn yr Awdurdod Lleol yn targedu agweddau gwahanol, er mwyn cwmpasu popeth yn y pen draw.  Mae ymweliadau â rhai o’r asiantaethau hyn wedi darparu darlun calonogol o’r cynlluniau a’r weledigaeth i weithredu, ond mae pob un ohonynt yn wynebu heriau oherwydd toriadau i’w gwasanaeth. 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Mae angen blaenoriaethu amser i gydgordio’n lleol – amser i gyfarfod a rhannu gwybodaeth a syniadau.  Trwy hynny, gellid sicrhau ein bod yn goresgyn awyrgylch o ddiffyg cyfathrebu.

Cwestiwn 5 - Yn eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel?

Yn fy marn i, llwyddir i ystyried a herio pob categori o ddisgybl yn y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, a chaiff hyn ei  ddadansoddi trwy systemau data’r Awdurdod Lleol.

 

Eto i gyd, credaf fod y targedau meintiol yn rhy uchelgeisiol i CA4 ar adegau, gan eu bod yn cael eu seilio ar berfformiad disgyblion yn CA2 ac iau.

Os ydych o’r farn nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?

Oherwydd amrywiadau ieithyddol o fewn gwahanol siroedd yng Nghymru, mae’n annheg cymharu ysgolion – mae angen systemau cyson a chadarn ar draws Cymru os am gymedroli’n gywir a chategoreiddio ysgolion yn deg.  Byddai creu ‘teuluoedd ystadegol’ o ALl yng Nghymru sydd â pholisiau iaith tebyg yn golygu bod modd cymharu perfformiad yn fwy dilys.

Cwestiwn 6 - Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

Byddwn yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu er mwyn  osgoi hinsawdd o newidiadau diddiwedd, oherwydd bod angen rhoi cyfle i ysgolion weithio er mwyn iddynt ddeall a gwreiddio’r cwricwlwm diwygiedig, er mwyn magu hyder a chael amser i wella canlyniadau.

Cwestiwn 7 - A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?

Pwysedd gwaith – mae angen pwyllo, neu byddwn yn colli athrawon a phenaethiaid da a rhagorol. 

 

Mae angen darparu canllawiau clir ar gyfer cyfateb lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol presennol gyda’r Cwricwlwm Diwygiedig. 

 

Mae angen gwella argaeledd dogfennau pwysig a sicrhau gwefannau hylaw.